ERBYN hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol Bangor a Merched y Wawr.

Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae'r fenter yn helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg.

Yn ôl pob sôn, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio.

Fel rhan o’r fenter, bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru.

Yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, mae cerddoriaeth yn gallu lleddfu iselder a difaterwch a chyfrannu at well ansawdd bywyd i unigolion sy'n byw gyda dementia.

Er bod llawer o staff gofal yn cydnabod hyn, mae'r rhan fwyaf o weithgareddau cerddorol mewn cartrefi gofal yn digwydd yn Saesneg, sy'n gallu arwain at golli cyfleoedd i breswylwyr sydd ag atgofion cryf sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth Gymraeg.

Mae'r ddisg, sydd hefyd ar gael i'w llwytho i lawr, yn cynnwys cerddoriaeth o sawl degawd, mewn prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor, Merched y Wawr, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, cwmni recordiau Sain a Dydd Miwsig Cymru.

Mae'r casgliad o ganeuon yn deillio o waith gan Alister O'Mahoney, sydd wedi graddio mewn cerddoriaeth, fel rhan o'i interniaeth gyda Dr Catrin Hedd Jones.

Bydd mil o gopïau o'r CD, sydd hefyd yn cynnwys gwaith celf gan Phil Thompson o Rhuthun sy'n byw gyda dementia, ar gael i ofalwyr gan Ferched y Wawr, ac ar gael i'w lwytho o Spotify trwy chwilio am restrau chwarae Dydd Miwsig Cymru.

Meddai Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: “Gwerthfawrogi cerddoriaeth yw un o'r galluoedd sy'n aros hiraf gyda phobl sy'n byw gyda dementia, ac i lawer ohonon ni yng Nghymru, mae'r caneuon sy'n golygu cymaint i ni yn cael eu canu yn Gymraeg.”

Meddai Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rwy'n croesawu'r adnodd gwerthfawr yma a fydd yn helpu siaradwyr Cymraeg sydd â dementia i deimlo'n ddibryder.

"Drwy fframwaith Mwy na Geiriau... mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg."

Meddai Dr Catrin Hedd Jones, seicolegydd siartredig a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor: "Bydd y cydweithio yma'n galluogi preswylwyr cartrefi gofal sy'n siarad Cymraeg i glywed caneuon maen nhw'n gallu cysylltu â nhw."