MAE dau athletwr ifanc o Sir Ddinbych wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol ym maes chwaraeon.

Mae Elan Williams, o Gynwyd, ger Corwen, sydd yn 10 oed ac sydd â pharlys yr ymennydd cwadriplegig, yn gwrthod gadael i'w hanabledd ei hatal rhag cyflawni ei nodau, a chyhoeddwyd yn ddiweddar ei bod yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Anabledd Cymru eleni. Y llynedd, cafodd Elan ei chydnabod yng Ngwobrau Chwaraeon Sir Ddinbych lle enillodd y wobr chwaraeon anabledd.

Mae William Bishop, sy'n 14 oed, o Lanrhaeadr, hefyd wedi cael blwyddyn lwyddiannus ar ôl cynrychioli Chwaraeon Anabledd Cymru yn rhedeg ym Mhencampwriaethau Athletau Para Cenedlaethol yr Iseldiroedd yn ddiweddar, a churodd ei amser gorau personol o 0.5 eiliad.

Cafodd William ei gydnabod hefyd yng Ngwobrau Chwaraeon Sir Ddinbych y llynedd pan gafodd wobr yr ysbrydoliaeth ifanc.

Ar ddechrau mis Gorffennaf hefyd, bu’n rhedeg i Chwaraeon Anabledd Cymru a chyflawnodd wobr arian yn y 100m ac yna aur yn y ras gyfnewid 100m yn athletau'r adran iau.

Dywedodd y Cyng Bobby Feeley, aelod arweiniol dros les ac annibyniaeth: "Rwyf bob amser yn falch o glywed newyddion am y bobl ifanc ysbrydoledig a thalentog sydd gennym yn ein sir.

"Mae hyn yn gamp ryfeddol gan Elan a William, ac rwy' n siwr y bydd llawer o bobl ifanc eraill yn cael eu hysbrydoli pan fyddan nhw'n gweld popeth y maen nhw wedi'i gyflawni."