YR wythnos hon cyhoeddir y nofel gyntaf erioed yn y genre ‘Agerstalwm’ (Steampunk) yn y Gymraeg.

Mae Agerstalwm yn gwneud defnydd o hanes yr 19eg ganrif ond yn gorliwio datblygiadau technolegol y cyfnod er mwyn amlygu themâu sy’n berthnasol i ni heddiw.

Babel yw teitl y nofel, gan Ifan Morgan Jones, wedi’i chyhoeddi gan Y Lolfa.

Meddai’r awdur, a gwblhaodd ddoethuriaeth yn hanes y wasg Gymraeg yn yr 19eg ganrif y llynedd, ei fod yn meddwl y byddai'r genre yn arbennig o berthnasol i Gymru gyfoes.

“Roedd nifer o’r pynciau sy’n ein corddi ni heddiw, fel ‘newyddion ffug’, datblygiadau cyflym ym myd technoleg, a newid amgylcheddol, yn poeni pobol yn yr 19eg ganrif hefyd.

"Yn fwyaf oll, efallai, trafod ein perthynas â gwaith a chyfalafiaeth.

"Wrth i amodau gwaith waethygu, a ydyn ni’n dychwelyd i gyfnod lle’r oedd pobol yn cael eu trin fawr gwell na pheiriannau?"

Dywedodd Ifan Morgan Jones ei fod yn gyfnod pan ddatblygodd mudiad cenedlaethol yng Nghymru ar gefn bwrlwm y wasg argraffu, gan arwain at sefydlu sefydliadau cenedlaethol i Gymru.

Roedd hynny hefyd yn ddrych i’r cyfnod presennol lle mae mudiadau yn galw am annibyniaeth eto ar gynnydd.