AM 9.15 fore Mercher, Awst 7 bydd dros 200 o blant bach rhwng 2-5 oed o Gylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi Sir Conwy yn serennu yn y Pasiant Meithrin a berfformir ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst.

Trefnir y pasiant gan Mudiad Meithrin a bydd y perfformiad yn para tua 20 munud.

Mudiad Meithrin sy’n gyfrifol am gydlynu’r pasiant yn flynyddol ac eleni y teitl yw ‘Parti Dewin’.

Bydd cyfle i bawb ymuno yn y canu gan fynd ar daith ddychmygol o amgylch sir Conwy gyda’r plant i ddod o hyd i leoliad parti Dewin a Doti er mwyn dathlu pen-blwyddi cymeriadau unigryw Mudiad Meithrin yn 10 oed.

Dywedodd Nia Wyn Jones ac Elin Medi Hughes, swyddogion cefnogi’r mudiad yn Sir Conwy: “Mae’r plant wrth eu boddau yn cymryd rhan, ac mi fydd yn brofiad bythgofiadwy iddyn nhw a’u teuluoedd i gael perfformio ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

"Mi fydd y pasiant yn berfformiad bywiog a lliwgar ac yn ffordd wych o ddathlu addysg Gymraeg ar ei gorau gan blant bach ardal Sir Conwy.”

Bydd sawl Parti Piws yn cael ei gynnal i ddathlu’r pasiant yn uned Mudiad Meithrin wedi’r perfformiad.

Yn ystod y partïon yma bydd tystysgrif yn cael ei roi i bob plentyn a gymerodd ran i’w hatgoffa o’r achlysur arbennig ynghyd â llyfryn a gyhoeddwyd yn arbennig i ddathlu pen-blwydd Dewin a Doti sef ‘Y Parti Piws’.

Meddai Carys Gwyn, rheolwr talaith gogledd-ddwyrain Mudiad Meithrin ac un o drefnwyr y pasiant: “Rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb am eu cydweithrediad parod i lwyfannu’r Pasiant Meithrin eleni, yn enwedig i Dilwyn Price am arwain y pasiant, i Elin Rhys am gyfeilio, ac, wrth gwrs, i’r holl arweinyddion, staff, a’r rhieni sydd wedi bod yn brysur yn paratoi’r plant tuag at y perfformiad arbennig yma - ac yn bennaf oll i’r holl blant fydd yn serennu ar y llwyfan.”

Ymhlith y Cylchoedd a fydd yn cymryd rhan fydd: Cylch Meithrin Cerrigydrudion; Cylch Meithrin Bro Cernyw; Cylch Meithrin Betws yn Rhos; Cylch Meithrin Llansannan; Cylch Meithrin Llanfair Talhaiarn; Cylch Ti a Fi Llannefydd.