CYNHELIR penwythnos hir o ddathlu a chofio am Owain Glyn Dwr yn ardal Corwen rhwng Medi 13-16.

Noson yng nghwmni Dilwyn Morgan – Nos Wener 13eg o Fedi:

Darlith Goffa Syr R Rees Davies gyda'r diddanwr a'r anturiaethwr, Dilwyn Morgan, Y Bala, yn Neuadd Carrog am 7.00yh.

Bwffe poeth am £15.00 trwy docyn wedi ei archebu o flaen llaw. Cyswllt: 01490 430207

Gwyl y Fflam, gwyl canoloesol yng Nghorwen, Dydd Sadwrn – Dydd Sul, Medi 14-15. Ewch i wefan www.gwylyfflam.com

Gwasanaeth Dathlu a Gorymdaith – Dydd Llun 16eg o Fedi:

Gwasanaeth i ddathlu Dydd Owain Glyndwr yn Eglwys Seion, Dydd Llun, Medi 16 am 10.30yb.

Cyflwyniad gan ddisgyblion Ysgol Bro Elwern, Gwyddelwern. Croeso i bawb.

Yn dilyn y gwasanaeth cynhelir gorymdaith yn cychwyn o Eglwys Seion am 11.30yb gyda Band Cambria yn arwain at gerflun Owain Glyndwr ar y sgwâr ar gyfer y seremoni cyflwyno torch flodau.

Sioe i Blant – Dydd Llun 16eg o Fedi:

Cynhelir sioe ryngweithiol Taith yr Iaith gan gwmni theatr Mewn Cymeriad i ddisgyblion ysgolion ardal Edeyrnion ym Mhafiliwn y Chwaraeon am 1.00yp.