GALL un penderfyniad newid bywyd am byth - hyd yn oed os mai lles y bobl sy’n agosach atoch chi sydd tu ôl i’r penderfyniad hwnnw.

Ond pan mae bywyd babi - a moesau meddygol - yn y cwestiwn, mae’r sefyllfa yn dwysau a dyma beth sydd wrth wraidd Pili Pala - drama wefreiddiol a syfrdanol newydd sydd yn dechrau ar S4C nos Sul, Medi 8 am 9pm.

Mae Sara Morris (Siân Reese-Williams – Craith, Emmerdale, Line of Duty) wrth ei bodd yn ei swydd fel prif feddyg ymgynghorol mewn Adran Feddygaeth Ffetws mewn ysbyty yng ngogledd Cymru.

Mae hi wedi ymhyfrydu’n llwyr fod ei ffrind Elin (Fflur Medi Owen - Rownd a Rownd, Darren Drws Nesa’) wedi beichiogi ar ôl blynyddoedd o dor-calon a methiant.

Drama am deulu a chyfeillgarwch, sy’n cyffwrdd â themâu megis ffyddlondeb; effeithiau erchyll brad; yr anobaith mae anallu i feichiogi yn eu hachosi a’r penbleth moesol sy’n gysylltiedig â therfynu beichiogrwydd.

Yn gefndir i’r ddrama, mae Pili Pala wedi gosod ar arfordir gogledd dwyreiniol Cymru, yn arddangos harddwch yr ardal, ond hefyd yn amlygu’r dyddiau euraidd sydd bellach wedi eu pylu yn un o drefi glan môr Cymru.