MAE teuluoedd o Langollen wedi bod yn cymryd rhan yn yr Her Deg o bethau i’w gwneud yn Nyffryn Dyfrdwy drwy greu cychod i arnofio ar Gamlas Llangollen fel rhan o ddigwyddiad a drefnwyd gan lyfrgell Llangollen a’n prosiect Ein Tirwedd Hardd sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol.

Crewyd ‘Deg o Bethau i’w Gwneud yn Nyffryn Dyfrdwy’ i ddathlu degawd ers arysgrifio Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddwr a Chamlas Pontcysyllte, fel ffordd cyffrous i fynd drwy dirlun hardd Safle Treftadaeth Y Byd gan gasglu gwobrwyon stamp ar hyd y ffordd.

Gallwch gael daflen weithgareddau o’r Ganolfan Croeso Llangollen.

Gyda'r her Rhoi Cwch i Nofio byddwch yn gwneud cwch eich hun i arnofio ar y gamlas, ac mae sialensiau eraill yn cynnwys chwilota’r draphont, traphont ddwr a thwneli yn y Waun a chwrdd â’r lamas ym Mharc Gwledig Ty Mawr.