NAWR yn ddigwyddiad sefydledig yn y calendr, bydd Dinbych yn agor ei ddrysau eto eleni rhwng Medi 27 a 29, gan gynnig llawer o adeiladau, teithiau, arddangosfeydd a sgyrsiau i bawb eu mwynhau.

Pob un am ddim!

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i edrych o fewn adeiladau megis Castell Dinbych, 2 Sgwâr y Goron a Neuadd Seiri Maen Dinbych, yn ogystal â Gardd Beatrix Potter yn Gwaenynog.

Mae adeiladau sy’n agored eleni am y tro cyntaf neu sy’n cynnwys elfennau newydd yn cynnwys Capel Pendref, sydd wedi cael buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar, a Chanolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Ar gael yn ystod y penwythnos mae teithiau o Ddinbych Ganoloesol, taith daeareg, taith o amgylch Coleg Myddelton a theithiau yn canolbwyntio ar Lôn Pendref a Stryd y Dyffryn.

Mae gofyn cadw lle o flaen llaw drwy gysylltu â Llyfrgell Dinbych, gan fod y mwyafrif o’r teithiau yn gyfyngedig i 25 o bobl.

Mae'r penwythnos yn cychwyn gyda sgwrs nos Wener am 7pm yn Theatr Twm o'r Nant gan Shaun Evans, o Brifysgol Bangor, a’r Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru dan y teitl “Pwerdy Dadeni Cymru: Dyffryn Clwyd c 1500-1650”.

Bydd lluniaeth ar gael.

Mae angen archebu lle ar gyfer hwn hefyd trwy Lyfrgell Dinbych.

Am ragor o wybodaeth am hyn oll:

· ewch i www.visitdenbigh.co.uk

· ffoniwch Llyfrgell Dinbych ar 01745 816313

· Ewch i dudalen Facebook Drysau Agored Sir Ddinbych

· Dilynwch nhw ar Twitter @OpenDoors_D

Mae parcio am ddim ym meysydd parcio’r dref drwy'r dydd ddydd Sadwrn, Medi 28 a gellir defnyddio'r maes parcio yn swyddfeydd y cyngor ar Ffordd y Ffair heb unrhyw gost.

Sylwch hefyd fod cyfle i ymweld â Dolbelydr, rhwng Henllan a Threfnant, rhwng Medi 20-24.

Cyfle i weld cartref Henry Salesbury a oedd yn gyfrifol am gyhoeddi’r Grammatica Britannica.

Mae Drysau Agored yn rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy'n digwydd mewn 50 o wledydd ledled Ewrop bob mis Medi.

Dyma'r dathliad mwyaf yng Nghymru o adeiladau a phensaernïaeth, a'r digwyddiad gwirfoddol mwyaf yn y sector treftadaeth yng Nghymru, gyda dros 1,800 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan.

Mae’r digwyddiad yn cael ei arwain gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid ledled Cymru.

Yn Ninbych, mae'r digwyddiad yn dibynnu ar dîm o wirfoddolwyr lleol a hoffai ddiolch i berchnogion yr adeiladau a'i noddwyr, Grwp Cynefin a Chyngor Tref Dinbych am eu cefnogaeth.