MAE wythnos gyntaf fis Hydref yn argoeli i fod yn brysur iawn i drigolion Sir Ddinbych wrth iddynt baratoi i groesawu Eisteddfod yr Urdd i’r sir ym mis Mai 2020.

Ar Hydref 3, cynhelir cyngerdd yn Theatr Pafiliwn y Rhyl sy’n ddathliad arbennig o dalentau lleol.

Mae artistiaid yn cynnwys Côr Cytgan Clwyd, Academi Indigo, Only Boys Aloud, Welsh National Opera ac Ensemble Pres Hyn DMC ynghyd a chôr arbennig o 250 o blant ysgolion cynradd.

Nic Parry fydd yn arwain y noson. Mae tocynnau ar gael drwy ffonio 01745 330000.

Fel rhan o’r Wyl Gyhoeddi’r Eisteddfod ddydd Sadwrn, Hydref 5, bydd Band Cambria yn arwain gorymdaith fydd yn cychwyn am 11 o’r gloch o Ysgol Uwchradd Prestatyn gan deithio drwy’r dref tuag at erddi Bastion am brynhawn o adloniant am ddim i’r teulu cyfan.

Bydd Huw ac Elin o griw Cyw, Band Pres Hyn Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, Y Trwbz a pherfformiadau gan ysgolion ac adrannau yr Urdd yn diddanu o’r llwyfan yn ystod y prynhawn.

Yn ogystal â’r perfformiadau ar y llwyfan, bydd nifer o stondinau ac amrywiaeth o weithgareddau ar gael gan gynnwys sesiynau chwaraeon a sesiwn sgiliau syrcas gyda Cimera.

Meddai cyfarwyddwr dros dro Eisteddfod yr Urdd Morys Gruffydd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i drigolion Sir Ddinbych, y cyngor sir, y pwyllgor gwaith, y cynghorau, mudiadau a’r sefydliadau lleol i gyd am eu croeso a’u cefnogaeth wrth i ni baratoi i ddod â’r wyl i’r sir.”