MAE mwy na 90 y cant o'r buddsoddiad mewn cynllun tai gofal ychwanegol newydd yn cael ei wario gydag isgontractwyr a chyflenwyr mawr yng Nghymru.

Ar ben hynny, mae pedair rhan o bump o benodiadau isgontractwyr a’r cyflenwyr mawr wedi eu lleoli fewn 30 milltir i safle gwerth £12m Awel y Dyffryn, sydd wrthi’n cael ei adeiladu yn Ninbych ar gyfer cymdeithas dai Grwp Cynefin.

Mae prentisiaid lleol a gweithwyr dan hyfforddiant sy’n dysgu sgiliau ym maes adeiladu, hefyd yn elwa o ddatblygiad y cynllun 66 fflat ar gyfer pobl hyn yn nhref Dinbych.

Ymhlith y gweithwyr dan hyfforddiant sy'n elwa o'r profiad gwaith mae rheolwyr is gontractau israddedig, a nifer o brentisiaid gosod brics o Goleg Llandrillo.

Wedi'i leoli ar safle adfeiliol yr hen ysgol ramadeg ar Lôn Ganol, mae disgwyl i Awel y Dyffryn gael ei gwblhau ganol 2020.

Mae'n cael ei ddatblygu gan y contractwr lleol, R L Davies, o Fae Colwyn.

Dywedodd cyfarwyddwr gwasanaethau adfywio Grwp Cynefin Dylan Roberts: “Un o brif flaenoriaethau Grwp Cynefin wrth ddatblygu yw sicrhau bod cymaint o fudd â phosib o’n buddsoddiadau yn dod i bobl a busnesau lleol.

"Yn Awel y Dyffryn, dwi’n arbennig o falch o’r gyfran uchel o swyddi lleol a grëwyd trwy benodi cymaint o is-gontractwyr a chyflenwyr lleol.”

Bydd y cynllun yn diwallu anghenion pobl hyn sydd eisiau byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ond gyda gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr os bydd angen.

Rhoddir blaenoriaeth tenantiaeth i drigolion Sir Ddinbych sy'n 60 oed neu'n hyn.

Mae Awel y Dyffryn yn brosiect ar y cyd rhwng Grwp Cynefin a Chyngor Sir Dinbych, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cyng Bobby Feeley, aelod arweiniol dros les ac annibyniaeth Cyngor Sir Dinbych: “Mae Awel y Dyffryn yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ac mae'r cyngor yn falch o fod yn rhan o'r prosiect hwn.”

Ychwanegodd Noela Jones, pennaeth gwasanaethau tai Grwp Cynefin: “Rydyn ni’n awyddus i ledaenu’r neges os oes gan breswylwyr ddiddordeb mewn fflat yn Awel y Dyffryn ac yn teimlo y gallant elwa o gael sgwrs gyfrinachol ynglŷn â’r rhent a’r costau, yna cysylltwch â ni er mwyn i ni gynnig cefnogaeth a chyngor i chi uchafu eich incwm.”