YN ddiweddar, fe lansiwyd prosiect iechyd meddwl newydd yn Sir Ddinbych gan Home-Start Cymru, ar y cyd â Mind Dyffryn Clwyd. Mae’r prosiect Cymorth Cyfoedion yn recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi merched sydd yn dioddef problemau iechyd meddwl isel megis gor-bryder, iselder, straen, iselder ôl-enedigol, hunan-barch isel, ac yn y blaen.

Yr hyn sy’n unigryw am brosiect Cymorth Cyfoedion yw bod ein gwirfoddolwyr yn rhannu eu profiadau personol, a’u bod ag empathi arbennig tuag ag eraill sy’n fregus.

Os ydych yn teimlo bod gennych naill ai brofiad personol o broblem iechyd meddwl isel, neu os ydych wedi cefnogi teulu a ffrindiau drwy gyfnodau anodd, ac yn hapus i gynnig cymorth i eraill, cysylltwch â Denise Williams yn Home Start Cymru, ar 01745 814819 neu dwilliams@homestartcymru.org.uk