MAE pencampwyr hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn, sef i hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, a defnyddio ymadroddion syml, fel modd o normaleiddio’r iaith.

Un o’r pencampwyr am 2019 yw’r chwedlonwraig ac enillydd cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol Dysgwr y Flwyddyn, Fiona Collins, yn wreiddiol o Swydd Hampshire yn Lloegr, ac erbyn hyn yn byw yng Ngharrog, ger Corwen.

Dechreuodd Fiona ddysgu Cymraeg yn Llundain, cyn parhau i ddysgu mwy pan benderfynodd symud i Gymru.

Hiraeth a ddaeth â Fiona i Gymru.

Hi yw’r cyntaf o’i theulu i ddysgu Cymraeg.

Chwedleuwraig yw Fiona, oedd yn teimlo ei fod yn angenrheidiol iddi allu adrodd chwedlau Cymru yn yr iaith Gymraeg – “chwedlau’r wlad yn iaith y wlad” fel y dwedai.

Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae, a’i rôl hi fel un o bencampwyr y diwrnod eleni, meddai Fiona: “Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn annog pobl i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, a does dim ffordd gorau i godi hyder na defnyddio pob smic o Gymraeg sydd gennoch chi.

"Dwi’n credu bod pawb sydd yn byw yng Nghymru yn gallu tipyn o Gymraeg. ‘Dan ni i gyd yn deall fod ‘Araf’ ar y ffordd yn golygu ‘lleihau’r cyflymder’, a bod ‘Maes Parcio’ yn rhywle i adael y car!

"Felly dwi wastad yn annog pobl sy ddim yn Gymry Cymraeg i beidio dweud ‘Dydw’i ddim yn siarad Cymraeg’, ond yn hytrach dweud, ‘Dwi’n siarad tipyn bach o Gymraeg’.

"Fel hyn, maen nhw’n cydnabod y Gymraeg SYDD ganddyn nhw, hyd yn oed os dim ond ‘Cymraeg arwyddion y ffordd’ yw hi.”

Basau Fiona yn hoff o weld mwy o siopau bach a mawr yn annog eu staff i gyfarch pawb trwy gyfrwng y Gymraeg ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, er mwyn normaleiddio’r iaith a chreu mwy o fwrlwm. Hoffai hefyd weld ysgolion yn annog mwy o angerdd ymysg disgyblion sydd eisoes yn weithgar dros faterion hinsawdd i fod yn angerddol dros eu hiaith hefyd.

Diolch i Fiona am ei hangerdd a’i hymroddiad tuag at y Gymraeg ac am gefnogi ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae eleni.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!