YN gynharach yr wythnos hon, fe lansiodd Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith Aeleg) ymgyrch newydd i annog siaradwyr Gaeleg i roi gwybod i bobl yn yr Alban a thu hwnt eu bod yn gallu siarad yr iaith.
Mae’r ymgyrch wedi ei hysbrydoli gan y cynllun ‘Iaith Gwaith’ yng Nghymru, sy’n annog siaradwyr Cymraeg i wisgo’r swigen oren i ddangos i gwsmeriaid eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Mae siaradwyr a dysgwyr Gaeleg yn cael eu hannog i ddefnyddio’r hashnod #cleachdi – neu #useit – gyda’r hashnod #gaidhlig (sef Gaeleg) wrth siarad gyda’i gilydd – ar gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu wefannau.
Maent hefyd yn cael eu hannog i wisgo cortyn gwddf, bathodyn neu sticer gyda swigen siarad gwyrddlas arni, i ddangos i’r byd eu bod yn falch o allu siarad yr iaith.
Meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: “Mae Iaith Gwaith wedi hen ennill ei blwyf, ac yn adnodd defnyddiol i sefydliadau, busnesau ac elusennau i ddangos i gwsmeriaid pwy all siarad Cymraeg.
"Mae’r cynllun yn mynd o nerth-i-nerth yng Nghymru ac rwyf yn falch iawn o fod yn rhan o’r lansiad hwn yn yr Alban.”
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here