MAE Lleu Llaw Gyfres gan y llenor unigryw Aled Jones Williams ar fin teithio i ganolfannau perfformio drwy Gymru.

Mi fydd y ddrama yn cyrraedd Dyffryn Clwyd ar Tachwedd 2 pan caiff ei pherfformio yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, yna Theatr John Ambrose, Rhuthun ar Tachwedd 6, cyn symud ymlaen i’r Bala ar Tachwedd 7.

Ysbrydolwyd y ddrama gan awydd Aled i archwilio ein mythau ni fel cenedl: Y Mabinogi.

Beth sydd yn digwydd pan fo myth yn torri lawr a chwalu?

A ddaw myth newydd i gymryd ei lle?

Drama ddifyr, ddeifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol all oroesi.

Betsan Llwyd sy’n cyfarwyddo ac mae’r cast i gyd yn wynebau cyfarwydd ym myd y theatr a’r cyfryngau: Carwyn Jones (35 Awr, Gair o Gariad); Sion Pritchard (Craith/Hidden, Hollti) a Dyfan Roberts (Un Nos Ola Leuad, Y Tad).

Noder fod canllaw oed 14+.