MAE Archifau Sir Ddinbych wedi cwblhau’r prosiect Datgloi’r Seilam i gofnodi a chadw cofnodion ysbyty hanesyddol o'r Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych.

Cafodd y gwasanaeth grant o £130,000 gan Wellcome yn 2017 i gyflogi tîm prosiect i restru a phecynnu yn fanwl dros filoedd o focsys o gofnodion sy’n berthnasol i driniaethau salwch meddyliol ledled Gogledd Cymru rhwng 1848 pan agorwyd yr ysbyty a 1995 pan gaeodd yr ysbyty.

Prif nod y prosiect oedd gwneud casgliad Ysbyty Gogledd Cymru yn fwy hygyrch ar gyfer gwaith ymchwil. Ymysg yr amcanion sydd wedi eu cyflawni mae:

• Catalog / rhestr eitemau o'r holl gofnodion yn y casgliad wedi’i gwblhau i’r safonau archif cyfredol.

• Casgliad wedi’i asesu ar gyfer anghenion cadwraeth ac mae cofnodion wedi eu hail-becynnu i becynnu archifol safonol sy’n eu gwarchod rhag dirywiad.

• Canllaw ar-lein wedi’i ddatblygu a’i gyhoeddi i helpu ymchwilwyr ddysgu mwy am yr ysbyty a’r cofnodion o fewn y casgliad.

Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, oedd y prif sefydliad yng Ngogledd Cymru er mwyn gofalu am y rhai a oedd yn dioddef o salwch meddwl.

Agorodd y sefydliad ym mis Hydref 1848 i wasanaethu Gogledd Cymru gyfan a'r gororau.

Ganrif yn ddiweddarach, roedd mwy na 1,500 o gleifion yno.

Hwn oedd y cyflogwr mwyaf yn yr ardal o bell ffordd ac mae'r gweithgareddau a gofnodir yn ei archifau swmpus yn adlewyrchu ei bwysigrwydd ym mywyd cymdeithasol ac economaidd yr ardal, gyda'i fferm, ei gweithgareddau chwaraeon, ei digwyddiadau cymunedol a’i gwyliau diwylliannol.

Caeodd yr ysbyty ei ddrysau am y tro olaf yn 1995.

Mae’r archif ganlyniadol yn unigryw oherwydd ei chyfanrwydd ac mae'n cynnwys: cofnodion cleifion; adroddiadau blynyddol a chofnodion pwyllgorau; cofnodion ariannol; cynlluniau; a chofnodion staff.

Er nad yw’r rhan fwyaf o'r casgliad ar gael i ymchwilwyr er mwyn cadw at ddeddfwriaeth diogelu data a pharchu cyfrinachedd cleifion, mae'n bwysig bod y casgliad yn cael ei gadw er mwyn galluogi mynediad i'r rheiny sydd â diddordeb mewn olrhain datblygiadau o ran trin cleifion iechyd meddwl yn y dyfodol.

Mae Archifau Sir Ddinbych yn cynnal digwyddiad nos Iau, Tachwedd 28 i ddathlu diwedd y prosiect.

Yn y digwyddiad hwn bydd sgyrsiau gan staff am brosiect Datgloi’r Seilam, a bydd cynrychiolydd o Gyngor Sir Ddinbych yn siarad am ddyfodol safle'r hen ysbyty.

Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn, cysylltwch â’r gwasanaeth i archebu drwy anfon e-bost at archifau@sirddinbych.gov.uk neu ffonio 01824 708250.