MAE Cymdeithas Hanes Lleol Llandyrnog & Llangwyfan yn casglu deunydd ar gyfer llyfr i’w gyhoeddi yn 2025 i nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Bu i’r gymdeithas gyhoeddi llyfr Llandyrnog & Llangwyfan 1914-18 Y Rhyfel Mawr The Great War y llynedd ac yn sgil y diddordeb, penderfynwyd mynd ati i gofnodi hanes ac effaith yr Ail Ryfel Byd yn yr ardal.

Gyda hyn mewn golwg, cynhelir digwyddiad cyhoeddus yn Neuadd Bentref Llandyrnog, ddydd Sul, Tachwedd 10 o hanner dydd tan 2.30pm.

Bydd hyn yn dilyn Gwasanaeth Sul y Cofio yn Eglwys Sant Tyrnog.

Os ydych chi, neu rywun ydych yn adnabod, wedi eich geni a’ch magu yn ardal Llandyrnog neu Llangwyfan, yn drigolion tymor hir neu newydd-ddyfodiaid – gallwch i gyd gymryd rhan.

Beth am bicied draw brynhawn Sul i glywed beth yw’r bwriad ac i weld sut y gallech gyfrannu?

Bydd croeso i bawb, a bydd lluniaeth ysgafn am ddim a gweithgareddau eraill.

Bydd siaced is-gapten Gwarchodlu Cartref, gwisg nyrs y Groes Goch, llyfr log y peilot, masgiau nwy a char Rover a adeiladwyd adeg yr Ail Ryfel Byd yn cael eu harddangos ynghyd â llawer o eitemau eraill

Os hoffech wybod mwy o flaen llaw, e bostiwch ysgrifennydd y gymdeithas ar llangwyfanhistory@hotmail.com neu ffoniwch swyddfa Menter Iaith ar 01745 812822.