MAE Grwp Cynefin, sy’n gyfrifol am 4,000 o dai ledled y gogledd, yn cryfhau eu tîm o staff trwy benodi pedwar swyddog newydd o fewn yr adran dai.

Mae’r pedwar wedi dechrau ar eu swyddi dros y misoedd diwethaf, ac yn prysur ddod i adnabod, trafod ac ymweld â thenantiaid yn eu hardaloedd.

Daw Meleri Williams o’r Bala; Awel Morris sy’n wreiddiol o Bowys, Catrin Lois Roberts yn wreiddiol o Drawsfynydd a Rhys Edwards o’r Bala.

Mae Awel, Catrin a Rhys wedi eu penodi yn swyddogion tai, tra bod Meleri yn swyddog lles.

Mae cefndir y pedwar yn gwbl amrywiol, ond dywed y pedwar bod y gallu i weithio i sefydliad sydd ag enw da fel cyflogwr teg i’r 246 o staff yn Grwp Cynefin, wedi bod yn bwysig iddynt.

“Ro’n i’n hollol ymwybodol bod gan Grwp Cynefin enw da yn lleol, bod tîm da yn gweithio i’r sefydliad a bod telerau cyflogaeth a gwaith yn dda. Roedd hi hefyd yn bwysig i mi allu gweithio yn lleol trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Catrin.

Roedd Meleri wedi graddio mewn seicoleg o Brifysgol Bangor cyn dechrau ar ei swydd fel seicolegydd cynorthwyol i blant a phobl ifanc yn ardal Wrecsam.

“Roedd hi’n amser am newid ac roeddwn i’n awyddus i weithio yn nes at adref a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg,” eglura Meleri, sy’n gweithio fel swyddog lles yn cefnogi tenantiaid sydd angen cymorth gyda’i hincwm neu ddiogelu ei budd-daliadau lles.

Doedd Grwp Cynefin ddim yn ddieithr i Awel, sydd wedi gweithio i’r gymdeithas dai ers dwy flynedd.

“Gweithio fel swyddog cyfathrebu oeddwn i a gwelais y cyfle i ddatblygu fy sgiliau a symud i’r adran dai.

"Dwi’n mwynhau bod yng nghanol pobl, yn sgwrsio efo tenantiaid, yn cynnig cefnogaeth iddynt ac yn teithio i ymweld â thenantiaid sydd angen cymorth ychwanegol.”

Newid trywydd gyrfa y mae Rhys wedi ei wneud, gan ymuno â Grwp Cynefin wedi cyfnod fel heddwas.

“Wedi cyfnod fel heddwas, a’r newyddion bod plentyn bach ar y ffordd, roedd hi’n amser newid trywydd gyrfa fel bod modd gweithio oriau mwy hyblyg,” meddai.

Yn ôl Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grwp Cynefin: “Asgwrn cefn bob sefydliad da ydi ei staff.

"Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod gennym dîm ymroddgar, talentog o staff, sy’n anelu’n uchel ac yn cyrraedd safonau.”

Am wybodaeth bellach ynglyn a swyddi o fewn Grwp Cynefin, ewch i www.grwpcynefin.org