MAE'R Dyn Dweud Drefn yn barod i ddwrdio, i roi llond pen, i’w dweud hi bob eiliad o bob awr o bob dydd!

Dyma gymeriad gwych gan Lleucu Fflur Lynch sydd newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf.

Gall plant (ac oedolion!) uniaethu gyda’r hiwmor sydd ynddo ac â’r lluniau cartwnaidd gwefreiddiol gan arlunydd ifanc sydd hefyd yn gweld ei gwaith rhwng cloriau am y tro cyntaf.

Rhodd hwylus i’r hosan!

Mae’r awdur Lleucu Fflur Lynch wedi’i magu yn Llangwm, ond bellach yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i S4C yng Nghaernarfon.

Ysgrifennodd y gyfres Y Dyn Dweud Drefn ar gyfer portffolio ysgrifennu creadigol yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r arlunydd Gwen Millward wedi’i magu yn ardal Llanfair Caereinion, ac wedi darlunio llawer o lyfrau gan ennill sawl gwobr.

Gwasg Carreg Gwalch, lliw llawn, £4.95.