MAE gwobrau mawreddog Chwaraeon Sir Ddinbych yn cydnabod unigolion, timau, ysgolion a chlybiau am eu hymroddiad i chwaraeon cymunedol lleol llawr gwlad yn y sir.

Derbyniwyd dros 100 o enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Cymunedol Sir Ddinbych 2019 ac fe luniodd y panel beirniadu'r rhestr fer derfynol o 25. Gwahoddwyd y rhain, ynghyd â’u ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr, i’r seremoni wobrwyo ym Mhafiliwn Llangollen ddechrau Tachwedd.

Cafodd y gwesteion noson o ddathlu, a straeon ysbrydoledig ac araith gan y gwestai arbennig, Liz Johnson, a greodd argraff ar y gynulleidfa gyda’i hanes o ddod yn enillydd medal aur Paralympaidd a Phencampwriaethau’r Byd.

Dywedodd Jamie Groves, rheolwr gyfarwyddwr hamdden Sir Ddinbych: “Mae’r gwobrau wedi helpu i gydnabod a rhannu straeon anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid oedd 2019 yn eithriad.

"Roedd safon yr enwebiadau eleni yn rhagorol ac yn dangos cymaint o bobl dawnus sydd yma yn Sir Ddinbych.”

I enwebu rhywun ar gyfer Gwobr Chwaraeon Cymunedol Sir Ddinbych 2020, ewch i wefan Hamdden Sir Ddinbych yn y flwyddyn newydd.

Enillwyr 2019

Perfformiwr chwaraeon iau: Huw Jones (Rhuthun).

Ysbrydoliaeth i'r ifanc: Holly Roberts (Dinbych).

Gwobr Chwaraeon Mewn Ysgolion: Ysgol Uwchradd Dinbych.

Gwobr chwaraeon anabledd: Anastasia Blease (Rhyl).

Perfformiwr chwaraeon: Jennifer Broughall (Rhuthun).

Clwb y flwyddyn: Tîm pêl-droed merched dan 13 Ysgol Glan Clwyd.

Hyfforddwr y flwyddyn: Jonathon Dawes (Rhyl).

Gwirfoddolwr y flwyddyn: Llio Jones (Henllan).

Cyflawniad oes: Bryn Lloyd Jones (Rhuthun).