CYNHELIR Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant ar ddydd Gwener 13eg o Ragfyr eleni.

Disgwylir y bydd miliynau o bobl yn cymryd rhan i godi arian i blant bregus ar draws y byd.

Mae cymryd rhan yn syml - drwy gofrestru ar christmasjumperday.org, gwisgo siwmper Nadolig, neu trwy addurno hen siwmper sydd gennych yn barod, a chyfrannu £1.

Yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y diwrnod, bydd plant ac oedolion sy’n mynychu grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin, yn cael eu hannog i drefnu stondinau a chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft Siwmper Nadolig.