BYDD Pwyllgor Gwyl Rhuthun yn cynnal eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar nos Fawrth y 10fed o Ragfyr am 8yh yn yr Hen Lys (Natwest gynt).

"Mae croeso mawr i’r cyhoedd fynychu y cyfarfod a gweld sut mae’r pwyllgor o wirfoddolwyr yn trefnu a rhedeg yr wyl," medd Jim Bryan, is-gadeirydd pwyllgor yr wyl.

"Rydym yn cyfarfod bob mis yn yr Hen Lys drwy gydol y flwyddyn i drefnu wythnos yr wyl, gan gynnwys y digwyddiad poblogaidd Top Dre ar y sgwar," ychwanegodd Jim.

Fe wnaeth yr wyl ddathlu y 25ain gwaith i’r digwyddiad gael ei gynnal yn 2019.

Bydd wythnos yr wyl yn 2020 yn rhedeg o’r 27ain o Fehefin i’r 5ed o Orffennaf, gyda’r digwyddiad poblogaidd Top Dre bellach wedi ei gadarnhau yn digwydd ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Orffennaf, 2020.