ELENI eto, mi fydd S4C yn cefnogi ac arddangos talent Gymreig wrth ddarlledu’n fyw o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2019.

Bydd digon o hwyl yn Neuadd William Aston, Wrecsam nos Sadwrn, Tachwedd30.

O 7.30 hyd nes i’r holl gystadlu ddod i ben, Anni Llyn, Lisa Angharad ac Ifan Jones Evans fydd yn dod â holl gyffro'r digwyddiad, o'r cystadlu hwyliog i’r cyffro cefn llwyfan, i wylwyr S4C.

Meddai Elen Rhys, comisiynydd adloniant S4C: "Mae’n bwysig i ni fel sianel i gefnogi'r Eisteddfod Ffermwyr Ifanc.

"Mae’r Clybiau Ffermwyr Ifanc yn sefydliad sy’n cyfrannu’n fawr i ddiwylliant Cymreig, ac mae ei gwerth i bobl ifanc ar lawr gwlad Cymru yn amhrisiadwy.

"Fel un sydd wedi ei magu ar y Clybiau Ffermwyr Ifanc yng nghefn gwlad Cymru, mae’r sefydliad wedi bod yn un hynod werthfawr i fi.”

Bydd digonedd o gystadlaethau i’w mwynhau ar noson fawr yr Eisteddfod, o’r meimio i gerddoriaeth a’r deuawdau doniol, i benllanw'r holl ddigwyddiad gyda chystadleuaeth ola’ y llwyfan - y côr cymysg.

Os ydych chi am fwynhau rhagor o gwmni'r ffermwyr ifanc, bydd rhaglen uchafbwyntiau arbennig yn cael ei darlledu cyn diwedd y flwyddyn.