MAE Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd wedi dod yn gyntaf dros Gymru ddwywaith mewn wythnos!

Yn y Sioe Aeaf yn Llanfair ym Muallt ddiwedd Tachwedd, daeth llwyddiant i CFfI Clwyd wrth iddynt ennill Cyntaf drwy Gymru hefo gwahanol gystadlaethau.

Daeth y tîm barnu wyn yn gyntaf efo Megan Jones Llangollen yn gyntaf dan 26, a Gethin Williams Nantglyn yn ail dan 16 a Sara Williams, Cilcain ac Elen Hughes Chwitffordd hefyd yn y tîm.

Fe ddaeth y tîm barnu bîff yn ail gyda Sion Eilir, Rhuthun yn gyntaf dan 26 ac Ifan Jones Llansannan yn gyntaf dan 21, hefyd yn y tîm oedd Beau Bevan, Llaneurgain a Gethin Williams, Nantglyn.

Fe ddaeth Nia Parry, Chwitffordd yn gyntaf am wneud calendr Adfent a thîm Chwitffordd yn ail am wneud fideo i hyrwyddo’r ffair.

Daeth y tîm carcas wyn yn 3ydd, gydag Aled Jones (Llangollen) ac Iwan Parry (Chwitffordd) yn 3ydd dan 26 a 21 a Gruff Edwards (Uwchaled) ac Aled Williams (Llannefydd) hefyd yn rhan o’r tîm.

I orffen yr wythnos i ffwrdd, roedd Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd yn gwesteio Eisteddfod CFfI Cymru yn Neuadd William Aston, Wrecsam ddydd Sadwrn diwethaf.

Roedd cystadlu brwd o 10 y bore tan hanner nos ac fe ddaeth Clwyd i’r brig am y tro cyntaf ers 30 mlynedd drwy ennill y darian am y mwyaf o farciau mewn cystadlaethau llwyfan ac hefyd y darian am y mwyaf o farciau yn yr Eisteddfod drwy Gymru.

Fe enillodd Dafydd Wyn Jones, o glwb Nantglyn, y darian am yr unawdydd gorau yn yr Eisteddfod.

Canlyniadau Clwyd:

Côr y sir: 3, Clwyd.

Unawd sioe gerdd: 1, Dafydd Wyn Jones, Nantglyn.

Canu emyn: 1, Dafydd Wyn Jones, Nantglyn.

Unawd dan 26: 1, Dafydd Wyn Jones, Nantglyn.

Deuawd: 2, Sion Eilir ac Elis Jones, Rhuthun.

Ymgom: 3, Nantglyn.

Llefaru dan 26: 2, Mali Elwy, Llansannan.

Cân gyfoes: 1, Mali Elwy, Owain John ac Eban Elwy, Llansannan.

Alaw werin: 2, Gwenan Mars Lloyd, Nantglyn.

Monolog: 2, Mali Elwy, Llansannan.

Unawd dan 16: 1, Gwenan Mars Lloyd, Nantglyn.

Llefaru dan 18: Owain John Jones, Llansannan.

Meimio i gerddoriaeth: 1, Llannefydd.

Adran gwaith cartref:

Brawddeg: 1, Ffion Roberts, Chwitffordd.

Araith ysgrifenedig: 2, Nia Parry, Chwitffordd.

Cerdd: 2, Llywela Edwards, Uwchaled.

Cywaith clwb: 3, Llannefydd.