MAE cymdeithas dai flaenllaw wedi cadarnhau pedwar aelod newydd i'w bwrdd rheoli.

Mae Grwp Cynefin wedi penodi Geraint George, Jane Lewis, Mike Corfield a Tony Jones i’r bwrdd rheoli o 10 aelod sy’n gyfrifol am bob agwedd o weithgareddau’r gymdeithas.

Y bwrdd sy’n cynnig cyfarwyddyd ar faterion y gymdeithas yn unol â’i hamcanion a’i chanllawiau.

Grwp Cynefin yw'r brif gymdeithas dai ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru, ac mae’n rheoli tua 4,800 o gartrefi.

Dywedodd Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grwp Cynefin: “Dwi’n falch o groesawu aelodau newydd ein bwrdd, bydd eu cyfoeth o brofiad ar y cyd a’u cefndiroedd amrywiol yn cryfhau ystod eang o sgiliau a galluoedd ein bwrdd.”

Yn ôl Dafydd Lewis, cadeirydd Grwp Cynefin: “Dwi’n ymfalchïo yn y ffaith bod Geraint, Mike, Tony a Jane wedi ymuno â’r bwrdd.

"Mae’r apwyntiadau yma’n parhau i gryfhau arweinyddiaeth profiadol Grwp Cynefin a bydd o gymorth wrth i’r cwmni edrych tua’r dyfodol.”