MAE caneuon Robat Arwyn yn rhan annatod o raglen unawdwyr, partïon a chorau ledled Cymru a thu hwnt, ac mae clasuron fel Anfonaf Angel, Brenin y Sêr ac Ymlaen â’r Gân yn ffefrynnau cadarn gyda pherfformwyr a chynulleidfaoedd.

Eleni, mae’r cyfansoddwr a’r cerddor yn dathlu ei ben-blwydd yn 60, ac mewn rhaglen arbennig o Noson Lawen Robat Arwyn: Dathlu’r 60, bydd y canwr Rhys Meirion yn cyflwyno noson o adloniant pur, ac ambell sypreis i ddathlu’r garreg filltir.

Bydd rhai o’n hartistiaid amlycaf yng Nghymru - Côr Rhuthun, Beth Celyn, Steffan Prys ac Emyr Lloyd Jones, Côr Iau Glanaethwy a mwy - yn perfformio detholiad o’i ganeuon sy’n cydio yn y cof, gan gynnwys yr anthemau Yfory, Benedictws, Dagrau’r Glaw ac Anfonaf Angel.

Un fydd yn perfformio gyda’r grwp 50 Shêd o Lleucu Llwyd yw’r cerddor Rhys Taylor, ac mae yntau’n cydnabod mor nodedig yw sain caneuon Robat Arwyn.

Dywedodd: “Dwi’n credu fod ganddo arddull bersonol ei hun; arddull sy’n adnabyddus. ‘Chi’n gwybod o’r nodau cyntaf mai caneuon Robat Arwyn ydyn nhw. Maen nhw jest yn gwneud i chi wenu o’r nodyn cyntaf.”

Ac mae’r arddull arbennig hwn wedi sicrhau cryn lwyddiant rhyngwladol i rai o’i ganeuon; recordiwyd y gân Benedictws gan y grwp The Priests a chyrhaeddodd yr albwm rhif 5 yn siartiau Prydain a rhif 1 yn siartiau Norwy ac Iwerddon.

Yn wreiddiol o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, daeth Robat Arwyn i’r amlwg gyntaf fel aelod o’r triawd Trisgell yn yr 1980au cynnar.

Dros y blynyddoedd, mae wedi cydweithio gyda nifer o feirdd fel Robin Llwyd ap Owain i lunio geiriau arbennig i gyd-fynd â’i gerddoriaeth.

Yn y rhaglen, cawn ychydig o hanesion tu ôl i’r caneuon.

“Dwi’m yn gwybod be’ sw’n i’n neud heb fy mhiano,” meddai Robat.

“Yn nechrau’r 80au, ro’n i’n byw mewn fflat yn Rhuthun uwchben siop Trebor Hughes, nes i brynu piano o Ddinbych, ond roedd y fflat ar yr ail lawr, a nathon nhw fethu cael y piano rownd yr ail set o risiau.

"Felly aeth y piano’n ôl i’r siop; ges i’r siec yn ôl ond fu raid i mi sgwennu ‘nghaneuon efo manusgript a phensel - ac felly nes i ‘sgwennu cân Yfory i Eirlys Parry.”

Eisteddwch yn ôl, a byddwch yn barod am gyngerdd heb ei ail o’ch ystafell fyw.

Noson Lawen Robat Arwyn: Dathlu’r 60

Nos Sadwrn, Rhagfyr 28 (8pm ar S4C).