NOSON Lawen yr Eisteddfod - sioe orlawn o ganu, dawnsio a chwerthin gyda rhes o berfformwyr a diddanwyr yn camu i'r llwyfan, gan gynnwys nifer o dalentau lleol.

Yn fro enwog am ei chorau, ‘steddwch lawr a mwynhewch gwledd o berfformiadau gan gorau lleol megis Hogiau’r Berfeddwlad, Côr Cantilena, a CoRwst, yn perfformio eu dehongliad nhw o Cymru, Lloegr a Llanrwst.

Yn ein diddanu ni hefyd mae ambell i wyneb cyfarwydd o lwyfannau’r Eisteddfodau, gan gynnwys John Ieuan Jones, Ryan Vaughan Davies ac Erin Gwyn Rossington.

Ymysg yr artistiaid eraill mae'r comedïwr Eilir Jones, a’r cantorion Arwel Gildas a Tara Bethan.

Un o sêr mwyaf plwy Llanrwst yw Orig Williams, neu El Bandito fel mae’r rhan fwyaf yn ei adnabod, sef y reslar byd enwog o Ysbyty Ifan.

Roedd hi’n ddegawd yn 2019 ers ei golli, ac mae ei ferch, Tara Bethan, yn talu teyrnged iddo ar y llwyfan drwy berfformio cân arbennig.

Dywedodd Tara: "Mae criw Ysgol Bro Aled, sef fy hen ysgol gynradd wedi cytuno i helpu fi efo’r gân. Mi wnaethon nhw brosiect yn ddiweddar ac roedd El Bandito yn rhan ohono."

Clywch y gân arbennig yn cael ei pherfformio gan Tara Bethan a phlant Ysgol Bro Aled fel rhan o wledd Noson Lawen Eisteddfod 2019 ar S4C nos Sadwrn, Ionawr 4 am 7.30pm.