GAN fod un o straeon enwocaf Kate Roberts wedi cael cryn dipyn o sylw ers llwyfannu’r sioe gerdd Te yn y Grug yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy'r llynedd, a darllediad ohoni ar S4C dros gyfnod y Nadolig, mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi trefnu dod â’r fonolog gan gwmni Mewn Cymeriad yn ôl i Ddinbych ar Chwefror 12.

Yr actores Carys Gwilym fydd yn dod â ‘Kate’ yn ôl i festri’r Capel Mawr yn Ninbych, i’r union fan lle bu i Kate Roberts a’i chriw sefydlu ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn ôl yn y 1960au.

Gyda chymorth prosiect a gyllidwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, cynhelir y ddrama am 7pm ar nos Fercher, Chwefror 12.

Bydd mynediad am ddim, ond mae angen cadw lle trwy gysylltu â Menter Iaith ar 01745 812822.