GALL gerddwyr nawr weld y darn o waith celf uchaf yn Sir Ddinbych.

Mae grwp o artistiaid wedi peintio’r piler triongli ar gopa Moel Famau, yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE).

Yn gwyro oddi wrth y lliw gwyn plaen traddodiadol sydd ar fwyafrif y pileri triongli yn y DU, mae wedi cael ei drawsnewid i ddarn o gelf, yn darlunio’r byd naturiol, gan beintwyr y Parc Gwledig.

Creodd bob aelod o’r grwp silwét o anifail, aderyn neu bryfyn sy’n byw o fewn yr AHNE.

Mae copa Moel Famau yn sefyll ar 554 metr a chafodd y dyluniadau eu peintio gyda stensil ar y piler triongli, yn ddu a gwyn i roi'r effaith weledol orau, a’u selio rhag y tywydd.

Mae’r grwp celf wedi’i leoli yn Llanferres ac yn cyfarfod bob wythnos ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Dywedodd John Roberts, aelod o Gyfeillion yr AHNE: “Mae’r gwaith yn gynrychiolaeth gwych o rai o’r bywyd gwyllt amrywiol sydd yn ein AHNE.

"Bydd yn bwynt siarad i nifer o ymwelwyr ar gopa Moel Famau, a bydd plant yn arbennig yn hoffi dyfalu pa greaduriaid sydd wedi’u cynrychioli.”