MAE'R paratoadau terfynol yn cael eu gwneud ar gyfer agor adeilad ysgol newydd yn Llanfair DC.

Bydd adeilad newydd yr ysgol eglwys ddwy ffrŵd yn agor ar ôl hanner tymor Chwefror pan fydd y disgyblion yn symud o’r safle presennol ar Ffordd Wrecsam i’r safle newydd ar dir gyferbyn â Bron y Clwyd.

Ariennir y prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy.

Dywedodd Helen Oldfield, pennaeth yr ysgol: “Bydd yr ysgol newydd yn trawsnewid yr amgylchedd addysgu a dysgu a fydd yn caniatáu i ddisgyblion ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.”

Meddai’r Cyng Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol addysg, gwasanaethau plant ac ymgysylltu â’r cyhoedd: “Diolch i aelodau’r gymuned am eu hamynedd a’u dealltwriaeth gyda chynnydd y prosiect hwn; rwy'n falch iawn y bydd disgyblion a staff yn gallu symud i'w hadeilad newydd yn fuan.”

Dywedodd Rosalind Williams, cyfarwyddwr addysg a dysgu gydol oes Esgobaeth Llanelwy: “Rydym wrth ein boddau y bydd yr Ysgol Eglwys ddwy ffrŵd newydd yn agor ei drysau i ddisgyblion ddiwedd Chwefror.

"Mae hyn wedi bod yn bartneriaeth wych rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Llanelwy yn cydweithio i gyflawni'r gorau ar gyfer y plant.”