CYNHALIWYD cystadleuaeth siarad gyhoeddus Cymraeg CFfi Clwyd ar Nos Fercher, Chwefror 5.

Roedd 30 o aelodau dan 14 yn cymerud rhan mewn cystadleuaeth darllen ac fe ddywedodd y beirniaid Jan Roberts ei bod wedi ei syfrdanu hefo safon y gystadleuaeth.

Yn fuddugol yn y gystadleuaeth roedd Merched Nantglyn - Alis Davies, Elan Howatson ac Alaw Evans.

Roedd y gystadleuaeth dan 16 yn cael ei beirniadu gan Guto Jones a Merched Llannefydd - Gweno Williams, Fflur Evans and Miriam Owen - ddaeth i’r brig.

Nantglyn gipiodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth dan 21, hefo Lea Davies, Cadi Mars Jones a Gwern Pierce yn plesio’r beirniaid Rhys Davies.

Tîm Chwitffordd - Anna Davies, Gweno Hughes, Nia Parry ac Iwan Parry - blesiodd y beirniaid Hugh H Evans yn y gystadleuaeth dan 26.

Nantglyn gipiodd y wobr am y marciau uchaf ar y noson, Llannefydd yn ail ac Uwchaled yn drydedd.