MAE Mis Mawrth Menter Sir Ddinbych yn dychwelyd am y pumed tro gan gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau, hyfforddiant a gweithdai ar gyfer masnachwyr y sir.

Mae’r digwyddiadau yn cynnwys hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Pinterest, Facebook, Twitter ac Instagram, yn ogystal â gweithdai gyda Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Bydd y digwyddiad Rhwydwaith Darparu Cymorth Sir Ddinbych yn rhoi awgrymiadau ar sut i godi eich busnes i’r lefel nesaf gyda siaradwr gwadd, gweithdai a’r siawns i sgwrsio â chynghorwyr a gweithwyr proffesiynol.

Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Blas Lleol, arddangosfa o ddarparwyr bwyd a diod lleol, a digwyddiad dathlu mentergarwch merched a’r cinio rhwydweithio Ffederasiwn Busnesau Bach blynyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae ein rhaglen Mis Mawrth Menter wedi’i ddylunio i ddiwallu anghenion busnesau yn y sir ac yn cynnig cyfle i rwydweithio a chael cyngor arbenigol o ran materion sy’n bwysig iddynt.

"Mae Mis Mawrth Menter yn rhan o waith y Cyngor ar ddatblygu’r economi lleol i sicrhau fod cymunedau’r sir yn wydn a bod mynediad gan drigolion at nwyddau a gwasanaethau."

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle ewch i www.sirddinbych.gov.uk/mis-mawrth-menter