DDYDD Gwener diwethaf, ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020 yn Ninbych, fe dorrwyd y dywarchen gyntaf i nodi 100 diwrnod i fynd tan yr wyl genedlaethol, sy’n denu hyd at 90,000 o bobol yn flynyddol, yn gystadleuwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr.

Cynhelir yr Eisteddfod ar wythnos y 25ain o Fai, gyda sioe uwchradd ar Fai 23, cyngerdd agoriadol ar Fai 24 a sioe gynradd ar Fai 26.

Y sioeau yw Penawdau, sioe blant cynradd, a Dan y Fawd, sioe ieuenctid. Mae’r ddwy yn sioeau hollol wreiddiol wedi eu hysgrifennu gan ddau enw cyfarwydd o’r sir, Penawdau gan Mali Williams, a Dan y Fawd gan Angharad Llwyd Beech sy’n cyfarwyddo ei sioe ei hun, gyda Catherine Jones yn is-gyfarwyddwr ac Ynyr Llwyd yn gyfansoddwr a chyfarwyddwr cerdd.

Mae tocynnau’r rhain ar gael ar wefan yr Urdd neu trwy ffonio 0845 257 1639.

Bydd perfformiadau ychwanegol o’r sioe ieuenctid, a gynhelir yn Theatr Elwy, Llanelwy ar Fai’r 2il a 3ydd.

I dorri’r dywarchen, ymunodd disgyblion ysgolion lleol - Ysgol Frongoch, Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Uwchradd Plas Brondyffryn - gyda swyddogion o Gyngor Sir Dinbych a’r Eisteddfod.

Fin nos, darlledodd rhaglen Heno ar S4C berfformiad gan Gôr Ysgol Pen Barras yn fyw o Lyfrgell Dinbych, sy wedi newid ei goleuadau i goch, gwyn a gwyrdd i adlewyrchu’r cyfnod o hyn i’r Eisteddfod.

Bydd lleoliadau eraill o fewn y sir hefyd yn cael eu goleuo yn lliwiau’r Urdd wrth i’r wythnos fawr nesáu.