YN ystod Cynhadledd Wanwyn Dysgu Cymraeg i Oedolion y Gogledd Ddwyrain, lansiwyd Llwyfan, gwefan newydd sy’n llyfrgell adnoddau ar gyfer tiwtoriaid ac athrawon Cymraeg.

Mae’r wefan yn benllanw prosiect a gychwynnwyd gan Popeth Cymraeg, Dinbych fel rhan o ddatblygiad maes Cymraeg i Oedolion yn yr ardal mewn partneriaeth â Choleg Cambria.

Dyluniwyd y wefan gan Dyfrig Berry, un o gyfarwyddwyr Popeth Cymraeg sy’n arbenigwyr ar dechnoleg gwybodaeth a pharatowyd yr adnoddau gan aelod o staff Popeth Cymraeg, Pegi Talfryn.

Yn ôl Llinos Roberts, pennaeth cyfathrebu corfforaethol, y Gymraeg a rhyngwladol gyda Choleg Cambria ac sy’n gyfrifol am arwain partneriaeth Dysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain: “Bydd y wefan newydd yma yn gaffaeliad mawr i diwtoriaid yr ardal ac yn ein galluogi ni fel partneriaeth i fedru cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n dysgwyr.

"Bydd cynnwys y wefan hefyd ar gael am ddim i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion ar draws Cymru ac athrawon ail iaith mewn ysgolion.”

Mae tua mil o adnoddau wedi’u huwchlwytho eisoes ac mae’r wefan yn cael ei diweddaru’n barhaol wrth i fwy o adnoddau gael eu creu.

Yn ôl Pegi Talfryn, sy’n gyfrifol am fwyafrif o cynnwys y wefan: “Mae’r wefan yn mynd i gynorthwyo tiwtoriaid prysur sy’n chwilio byth a beunydd am adnoddau parod, deniadol i’w defnyddio gyda’u dysgwyr, gyda’r porwr chwilio yn elfen bwysig o wneuthuriad y wefan.

"Mae modd chwilio am adnoddau fesul cwrs a lefel, strwythur gramadegol, thema neu destun cyfathrebol. Ryn ni’n gobeithio’n fawr y bydd defnydd helaeth yn cael ei wneud ohoni.”

Yn ôl Helen Prosser, cyfarwyddwr dysgu ac addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ddiolchgar i Bopeth Cymraeg am greu adnoddau i ategu’r cyrsiau cenedlaethol newydd.

"Mantais creu cyrsiau cenedlaethol yw bod darparwyr ar draws Cymru yn creu elfennau gwahanol ac yn rhannu â’i gilydd i greu profiad o ansawdd uchel ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr.”

Yn ogystal â’r adnoddau ar-lein, bydd tiwtoriaid Popeth Cymraeg yn medru cael gafael ar gopïau argraffedig o’r adnoddau hyn yng Nghanolfan Iaith Clwyd yn Ninbych.

Dywed Alun Jones, cadeirydd cyfarwyddwr Popeth Cymraeg: “Mae Popeth Cymraeg wedi bod yn flaengar ym maes dysgu Cymraeg i oedolion ers blynyddoedd.

"Mae’n bleser gennym rwan fedru rhannu’n harbenigedd efo pawb yng Nghymru er lles y dysgwyr.”

Gall unrhyw un lawrlwytho’r adnoddau trwy fynd i www.popethcymraeg.cymru/cy/llwyfan