MAE tîm o beirianwyr ifanc o Ysgol Glan Clwyd wedi ennill gwobr arloesedd prosiect ac wedi ennill y wobr gyntaf trwy Gymru yng nghystadleuaeth y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) sef rownd derfynol Cymru a Lloegr yn y gystadleuaeth First Lego League.

Aelodau Tîm Egni yw Gwen Emmett, Gwion Williams, Harriet Knapp a Jake Chow ac maent i gyd yn 13 oed.

Cawson nhw eu gwobrwyo ym Mryste a byddant yn cynrhychioli Cymru ar lwyfan byd-eang yn y rownd derfynol rhyngwladol yn Detroit, America.

Mae’r sialens wyddoniaeth a thechnoleg wedi cael ei anelu at blant 9-16 oed, yn herio’r tîm i adeiladu robot allan o lego a’i raglennu i gwblhau cyfres o dasgau (missions).

Rhaid hefyd datrys problem real sy’n ymwneud ar thema eleni sef peirianneg, dylunio ac adeiladwaith.

Dywedodd hyfforddwr y tîm Sion Jones: “Am gyfle anhygoel arall, dyma’r 4ydd tro i ni gystadlu’n rhyngwladol.

"Mae yna reswm pam ein bod yn dod yn ôl i’r gystadleuaeth yma bob blwyddyn - dyma’r gystadleuaeth STEM fwyaf ac orau yn y byd.

"Ni ellir disodli’r profiadau ar sgiliau mae’r disgyblion yn elwa ohonynt o’r gystadleuaeth yma gan unrhyw gystadleuaeth arall.”