CYNHALIODD CFfi Clwyd eu diwrnod gwaith maes Dydd Sul y 1af o Fawrth yn Ocsiwn Rhuthun.

Roedd aelodau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau a bydd yr enillwyr ymhob adran yn cynrychioli Clwyd ym mhencampwriaethau Cymru.

Hoffai CFfi Clwyd ddiolch i Ocsiwn Rhuthun a Mona Tractors am eu cefnogaeth barhaol a hefyd i’r beirniaid a’r stiwardiaid am wneud yn ddiwrnod yn llwyddiannus.

Canlyniadau:

Gwartheg llaeth: U26, Sion Eilir, Ruthin; U21, Elgan Hughes; U18, Gruffudd Lloyd; U16, Cerys Harris.

Stocmon y flwyddyn iau: 1, Idris Williams (Betws yn Rhos) a Gruffudd Edwards (Uwchaled); 2, John Williams (Chwitffordd); 3, Gethin Williams (Nantglyn).

Tîm iau cyffredinol: Betws yn Rhos

Stocmon y flwyddyn hyn: 1, Sion Eilir Roberts (Rhuthun); 2 Iwan Parry (Chwitffordd); 3, Aled Jones (Llangollen); 4, Harri Kynnaston (Uwchaled).

Tîm hyn cyffredinol: Chwitffordd.

Sgiliau diogelwch fferm:

ATV: 1, Tom Jones (Betws yn Rhos); 2, Tomos Davies (Nantglyn); 3, Dafydd Williams (Cilcain).

Cymorth cyntaf: 1, Nia Parry (Chwitffordd); 2, Hamish Profit (Betws yn Rhos); 3, Elen Gwen (Nantglyn).

Tractor & trelar: 1, Owain Williams (Nantglyn); 2, Wil Thomas (Betws yn Rhos); 3, Dave Stoner (Cilcain).

Cafwyd sawl cystadleuaeth arall yn ystod y diwrnod yn cynnwys her palet, dawnsio, fferm factor a ‘cheerleading'.