AR nos Wener, y 6ed o Fawrth, roedd Theatr Twm o’r Nant dan ein sang gyda phobl yn mwynhau eu hunain yn Eisteddfod y Dysgwyr Gogledd Ddwyrain Cymru.

Trefnwyd yr Eisteddfod gan Popeth Cymraeg, Dinbych ar y cyd â Choleg Cambria.

Bu cystadlu brwd yn y dair adran, sef y cystadlaethau llwyfan, gwaith cartref a’r celf, crefft a chogino.

Roedd y beirniaid a’r arweinyddion wedi eu plesio’n fawr gyda chynifer o ddysgwyr oedd wedi cystadlu.

Enillwyd y gadair eleni gan Martyn Evans o’r Wyddgrug.

Diolch i bob dysgwr a thiwtor Cymraeg am ei gwneud hi’n Eisteddfod mor llwyddiannus ac i bawb a fu’n cynorthwyo ar y noson.