YN rhan o gynllun Darllen yn Well, cyhoeddir cyfieithiad i’r gwerthwr gorau, Reasons to Stay Alive gan yr awdur uchel ei barch a hynod boblogaidd, Matt Haig.

Mae Rhesymau Dros Aros yn Fyw yn lyfr teimladwy, doniol a llawen sydd yn ceisio lleihau’r stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl ac yn ceisio argyhoeddi pobl mai “nid o waelod y cwm y mae’r olygfa orau”.

“Roeddwn i eisiau ysgrifennu llyfr am fy mhrofiad yn syth wedi i mi sylweddoli bod iselder wedi palu celwyddau am fy nyfodol, ac er mwyn mynd i’r afael ag iselder a gorbryder unwaith ac am byth,” meddai Matt Haig. Mae Rhesymau Dros Aros yn Fyw yn stori wir am sut y dysgodd Matt Haig i fyw, gan oresgyn iselder a fu bron â'i orchfygu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Asiantaeth Darllen (The Reading Agency) a llyfrgelloedd i sicrhau bod y cynllun Darllen yn Well ar gael ledled Cymru.

Fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia yn 2018, a llynedd fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl.

Nod Darllen yn Well yw i roi cymorth i bobl ddeall a rheoli eu hiechyd, gan gynghori sut i fyw yn dda a chynghori teulu a gofalwyr hefyd.

Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan weithwyr yn y maes iechyd.

Mae’r Asiantaeth Darllen yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod y llyfrau ar y rhestr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf.

Meddai Helgard Krause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mewn cyfnod o drafod cynyddol am broblemau iechyd meddwl, rydyn ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru.”

Bydd mwy o gyfrolau’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, gyda’r llyfrau yn trafod pynciau pwysig fel ymwybyddiaeth ofalgar, galar, gorbryder ac anhwylder bwyta.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.reading-well.org.uk/cymru

Mae Rhesymau Dros Aros yn Fyw gan Matt Haig ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).

Canmoliaeth am y llyfr:

“Campwaith bychan a allai hyd yn oed achub bywydau.” - Joanna Lumley.

“Mae Matt Haig yn rhyfeddol.” - Stephen Fry.

“Llyfr gwych i'w ddarllen, hanfodol i’n llesiant torfol.” - Jo Brand.

“O bosib y llyfr pwysicaf i mi ei ddarllen eleni.” - Simon Mayo.