GYDA'R Ewros ar fin dechrau mae’r awdures arobryn Manon Steffan Ros yn cyhoeddi nofel newydd gyda phêl-droed yn ganolog iddi.

Dyma’r ail nofel iddi ysgrifennu am y bêl gron yn dilyn llwyddiant Fi a Joe Allen.

Y tro hwn Aaron Ramsey sy’n cael y lle canolog, ac mae’r awdures sydd wrth ei bodd â phêl-droed yn awchu i’r Ewros ddechrau.

Mae Fi ac Aaron Ramsey (Y Lolfa) yn ymwneud â Sam, sydd ag obsesiwn â phêl-droed, yn enwedig ag Aaron Ramsey.

Mae Sam yn dueddol o boeni am bopeth, yn ei fywyd personol ac ar y cae, ond drwy bêl-droed mae Sam yn ymdopi’n well gyda’i orbryder.

Mae pêl-droed yn bwysig i’r teulu i gyd, ond mae eu perthynas â’r gêm yn cael ei brofi i’r eithaf gan un digwyddiad erchyll.

Mae galw mawr am nofelau i bobl ifanc yn gyffredinol, a hyd yn oed mwy o alw am nofelau am bynciau fel pêl-droed.

Yn ôl Bethan Gwanas (yn ysgrifennu ar ei blog): “os oes gynnoch chi blentyn sy’n gwrthod neu’n casáu darllen oherwydd fod yn well ganddo/ganddi chwarae pêl-droed, dwi wir yn meddwl y gallai hon wneud gwahaniaeth.”

Mae Fi ac Aaron Ramsey (£5.99, Y Lolfa) ar gael nawr.