MAE llwydiant un bachgen ifanc o Sir Ddinbych ar lwyfan Eisteddfod T wedi arwain at wahoddiad unigryw i berfformio yng Ngŵyl Cymru Gogledd America.

Ar ddiwrnod olaf darlledu Eisteddfod T 2021 (Dydd Gwener, 4 Mehefin) mae Urdd Gobaith Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd enillydd cystadleuaeth Unawd 19-25 oed yr ŵyl, sef y tenor Dafydd Wyn Jones o Lanrhaeadr, Sir Ddinbych yn cael ei wahodd i berfformio fel gwestai arbennig yng Ngŵyl Cymru Gogledd America 2021, a gynhelir yn Utica, Efrog Newydd ym mis Medi.

Mae Gŵyl Cymru Gogledd America yn dyddio yn ôl i’r un flwyddyn a gynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am y tro cyntaf un, sef 1929.

Y flwyddyn honno fe deithiodd 4,000 o bobl i Niagra Falls ar gyfer y Gymanfa Ganu Genedlaethol i Gymry America. Erbyn hyn, cynhelir yr ŵyl bob mis Medi mewn lleoliad gwahanol, naill ai yn yr Unol Daleithiau neu yng Nghanada.

Mae’r ŵyl 4 niwrnod yn ddathliad o fywyd, treftadaeth a diwylliant Cymru.

Daw’r cyfle unigryw o ganlyniad i gymynrodd i’r Urdd gan y diweddar Dr John M. Thomas, Cymro oedd yn byw yn Florida, Unol Daleithiau ers blynyddoedd lawer, ond oedd ag atgofion hapus o Eisteddfodau yn ei blentyndod.

Mae’r Urdd yn hynod ddiolchgar i Dr Thomas a’i deulu am y gymynrodd sy’n galluogi cynnig profiadau cwbl unigryw i Dafydd Wyn Jones ynghyd â sawl unawdydd buddugol Eisteddfod yr Urdd i’r dyfodol.

Meddai Mali Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Rhyngwladol yr Urdd: “Mae cynnig cyfleoedd newydd a phrofiadau rhyngwladol i’n pobl ifanc yn flaenoriaeth, ac mae cyfleodd perfformio yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn enghraifft berffaith o’r math o gyfleoedd unigryw sy’n medru codi o fod yn aelod o’r Urdd, a hynny yn ddiolch i garedigrwydd a haelioni Dr Thomas deulu.”

Wrth i’r Urdd nesáu at ei chanmlwyddiant yn 2022 mae gan y Mudiad gynlluniau uchelgeisiol i godi proffil Cymru a dathlu cyfoeth diwylliannol ein gwlad, yn ogystal â rhannu arferion da gyda chysylltiadau rhyngwladol.

Ers ei sefydlu yn 1922, mae'r Urdd wedi meithrin dros 4 miliwn o bobl ifanc i ymfalchïo yn eu gwlad.