MAE cyfres newydd o bodlediad Dewr - a enillodd y Wobr Aur yng nghategori Y Podlediad Gorau Cymraeg yn y British Podcast Awards dros y penwythnos – yn dod i BBC Sounds.

Iechyd meddwl yw prif thema’r podlediad sydd hefyd yn trafod cyfnodau heriol a hapus bywyd gyda rhai o wynebau cyfarwydd Cymru.

Y gantores a’r gyflwynwraig Tara Bethan sy’n cyflwyno a daeth y podlediad gwreiddiol i fodolaeth ar ddechrau cyfnod y pandemig.

Bu i Tara a’i ffrind Llinos Manon Williams benderfynu cydweithio a chreu cyfres gonest am heriau bywyd a iechyd meddwl yn y Gymraeg.

Bu i’r gyfres gyntaf glywed gan gyfranwyr yn cynnwys Hywel Gwynfryn, Catrin Finch a Manon Steffan Ros.

Meddai Tara Bethan: “Dwi mor, mor hapus bod BBC Sounds wedi cynnig ail gyfres i ni. Pan nath fy ffrind i, Llinos Manon a finna ddechrau cyfres un o Dewr gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru doedd dim syniad ganddo ni be fuasai’r ymateb.

“Fel Cymru ‘da ni ddim yn genedl sydd yn naturiol yn siarad yn uchel am hynt a helyntion ein bywydau personol, na chwaith am ein hiechyd meddwl - felly roedd y ddwy ohonom wedi’n syfrdanu gyda’r ymateb mor bositif a chefnogol gaethon ni.

“Cymaint o wrandawyr yn cysylltu i ddiolch i ni ac i rannu eu profiadau gyda ni wedi iddynt uniaethu gyda’r amrywiaeth o storis gan ein gwesteion anhygoel. Dros 20k o ‘hits’ a rwan y fraint o ennill Podcast Cymraeg Gorau’r flwyddyn gan y British Podcast Awards. Ma’n nuts!

“Mae iechyd meddwl yn rhywbeth dwi wedi stryglo hefo fo dros y blynyddoedd ond ma’n teimlo fel braint, rhyddhad a phleser llwyr gallu troi fy ‘sialens’ hir oes i mewn i sgyrsiau positif sydd yn amlwg yn helpu ein gwrandawyr ond hefyd yn addysg a siwrne anhygoel i Llinos a fi.

“Fel yng nghyfres un, ein gobaith ydi i ddod â sgyrsiau hwyliog, amrwd a gonest i’n gwrandawyr a dwi’n siŵr fydd yna lot mwy o chwerthin a chrio eto eleni.”

Meddai Gruffudd Pritchard, Golygydd Cynnwys Cymru Fyw: “Fe wnaeth Dewr argraff fawr ar nifer ohonom yn 2020.

“Felly dwi wrth fy modd fod Tara a’i gwesteion bellach yn cael eu cartref newydd ar BBC Sounds. Rwy’n gobeithio byddwn yn gallu helpu’r podlediad pwysig yma i dyfu a datblygu ac y bydd y cynulleidfaoedd newydd yn darganfod Dewr.”

Cyfres newydd Dewr ar gael o Medi ar BBC Sounds.