WRTH i ddigwyddiad mawr yn y calendr amaethyddol adael bwlch ar gymdeithasu yr wythnos yma, bydd un sefydliad cryfder meddwl yn cyflwyno digwyddiad ar-lein gyda dau bersonoliaeth chwaraeon eithafol byd enwog i ysbrydoli’r gymuned wledig.

Bydd y gŵr sy’n dal teitl Cneifiwr Peiriant Gorau’r Byd, Richard Jones o Glyndyfrdwy a’r rhedwraig antur eithafol a chyflwynydd teledu, Lowri Morgan yn ymuno â’r darlledwr profiadol Nic Parry yn Stad y Rhug i rannu’r dygnwch, y dyfalbarhad a’r nerth meddyliol sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r heriau corfforol yma.

Mae’r digwyddiad Cymraeg ar-lein yn cael ei drefnu gan Nerth Dy Ben, sefydliad gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr sy’n ceisio rhoi llwyfan i unigolion rannu profiadau cadarnhaol, am fyw a gweithio yng nghefn gwlad.

Daeth y syniad y tu ôl i’r digwyddiad, ‘Dau Fyd, Dau athletwr, Un Nerth’ gan Alaw Owen o Ddinbych: “Clwyd fydd sir nawdd Y Sioe Fawr yn Llanelwedd pan fydd y giatiau i’r digwyddiad go iawn yn cael eu hail-agor. Roedden ni’n awyddus i drefnu digwyddiad oedd yn ceisio ail-greu’r wefr rydych chi’n ei theimlo ar nos Fercher nodweddiadol y Sioe Fawr yn y Sied Gneifio.”