MAE digwyddiad Drysau Agored Dinbych yn ôl i rannu ei gyfrinachau treftadaeth a hanesyddol rhwng 10-12 Medi.

Mae Dinbych yn gartref i’r nifer uchaf o adeiladau rhestredig mewn tref yng Nghymru, felly os ydych chi’n awyddus i weld y tu allan i dŷ tref o ganol yr 16eg ganrif (Bryn y Parc) neu fythynnod Gothig o’r 19eg ganrif mewn teras (Ffordd y Castell) neu ymweld â un o’r nifer o eglwysi hyfryd sydd yn yr ardal, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu’ch ymweliad yn gynnar.

Dywedodd Chris Evans, cadeirydd grŵp gwirfoddol Drysau Agored Dinbych: “Mae Drysau Agored Dinbych yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ein hanes lleol cyfoethog neu i ymwelwyr o bellach draw gael cipolwg ar y gorffennol canoloesol yn ein castell a’n tref gaerog.

“Rydyn ni’n gyffrous ein bod yn gallu agor y gatiau a’r drysau i rai o leoliadau treftadaeth Dinbych ar ôl egwyl y llynedd, oherwydd y pandemig.

“Er mai digwyddiad ychydig llai na’r arfer fydd gennym, gyda mwy o ffocws ar safleoedd a theithiau awyr agored, ein gobaith yw y bydd pobl yn mwynhau’r lleoliadau gwahanol ac yn dysgu mwy am ein tref arbennig ni.

“Byddem yn annog pawb i archebu eu hymweliadau yn fuan, er mwyn osgoi unrhyw siom.”

Ar gyfer y genhedlaeth iau, mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi trefnu sesiwn Minecraft ar-lein, yn y Gymraeg, ddydd Gwener, 10 Medi i gychwyn am 5pm a gweithdy Lego brynhawn Sadwrn, 11 Medi lle bydd cyfle i adeiladu hen neuadd y sir, gaiff ei adnabod heddiw fel Llyfrgell y dref.

Bydd y gweithgareddau am ddim ond mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw.

Yn ôl Gwion Tomos-Jones, o’r Fenter Iaith: “Diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r Fenter yn falch o allu dod â threftadaeth ein milltir sgwâr i sylw’r genhedlaeth iau trwy chwarae Minecraft a Lego.

“Y gobaith yw y gwnant sylwi a gwerthfawrogi mwy ar adeiladau hanesyddol lleol. Braf yw gallu cydweithio gyda grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n trefnu’r penwythnos treftadaeth flynyddol hwn yn Ninbych.”

Mae’n rhaid archebu ar gyfer pob taith a gweithgaredd trwy Lyfrgell Dinbych ar 01745 816313, a bydd mesurau arbennig oherwydd Covid-19 ar waith ym mhob lleoliad.

Mae gwybodaeth fanwl, gan gynnwys cyfeiriadau amseroedd a lleoliadau, ar gael o www.visitdenbigh.co.uk.

Fedrwch hefyd fynd i Facebook: @opendoorsdenbighshire neu Twitter: @OpenDoors_D neu galwch heibio Llyfrgell Dinbych.