YN SGIL poblogrwydd ysgubol Cyfres Amdani – cyfres o lyfrau wedi eu datblygu’n arbennig ar gyfer dysgwyr – mae’r Lolfa yn falch iawn i gyhoeddi dau deitl newydd sbon gan ddau diwtor Cymraeg profiadol sydd hefyd yn awduron penigamp: Gorau Glas gan Lois Arnold (Lefel Mynediad) a Rob gan Mared Lewis (Lefel Uwch).

Mae’n ffaith bod darllen yn help mawr yn y broses o ddysgu iaith, ac mae hyn yn wir o’r cychwyn cyntaf. Mae darllen yn rhoi’r cyfle i rywun gyfarwyddo â geiriau a phatrymau gramadegol ac yn atgyfnerthu geirfa yn y cof. Mae iaith Cyfres Amdani wedi ei olygu gan arbenigwr ym maes dysgu Cymraeg i oedolion a cheir geirfa ar bob tudalen ac yn y cefn.

Meddai Lefi Gruffudd o wasg Y Lolfa: “Mae Cyfres Amdani wedi bod yn boblogaidd iawn ers dechrau’r gyfres yn 2018. Mae’r gyfres yn llenwi bwlch drwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen amrywiaeth o nofelau cyfoes, o nofel syml iawn fel Gorau Glas gan Lois Arnold i rywbeth mwy uchelgeisiol fel Rob gan Mared Lewis. Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi mwy o lyfrau sy’n annog dysgwyr i ddarllen ac o gydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrth gyhoeddi’r ddwy nofel.”

Datblygwyd y gyfres yn wreiddiol yn 2018 ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a phedair gwasg (Y Lolfa, Gomer, CAA ac Atebol). Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch – i gyd-fynd â chyrsiau y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r gyfres hefyd yn addas i bobl sydd eisiau ailgydio yn y broses ddysgu a phobl sydd yn rhugl ond angen magu hyder wrth ddarllen.

Am y llyfrau:

Gorau Glas gan Lois Arnold

Nofel hwyliog i ddysgwyr Lefel Mynediad ar ffurf cyfres o straeon am anturiaethau’r swyddog heddlu Alix Jenkins a’i chriw o gyd-weithwyr. Mae’r nofel hefyd yn elwa o luniau du a gwyn gwreiddiol gwych yr artist Carl Pearce.

Dysgodd Lois Arnold Gymraeg fel oedolyn gan ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004. Enillodd gystadleuaeth creu deunyddiau darllen i ddysgwyr yn Eisteddfod Meifod a ffrwyth hynny oedd ei chyfrol gyntaf Cysgod yn y Coed. Erbyn hyn mae’n awdur pedair nofel i ddysgwyr. Mae Lois yn byw ym Mhorth Tywyn yn Sir Gâr.

Rob gan Mared Lewis

Nofel ddoniol a dwys sy’n olrhain treialon tad sengl sy’n symud gyda’i blant i ardal lled gyfarwydd iddo ar ôl tor priodas. Mae’n cynnig stori ddifyr, cymeriadau crwn ac ieithwedd addas i Lefel Uwch.