ELENI, mae Mudiad Meithrin yn dathlu pen-blwydd arbennig wrth iddo ddathlu 50 mlynedd o ddarparu addysg Gymraeg o safon ers ei sefydlu yn 1971. 

Bydd y gyfrol arbennig Cylch o Hanner Canrif – llyfr sy’n dathlu 50 mlynedd o waith Mudiad Meithrin, yn cael ei lansio yng nghwmni Mererid Hopwood, golygydd y gyfrol, brynhawn Sadwrn, 2 Hydref yn Aberystwyth.

Meddai Mererid Hopwood, golygydd y llyfr: “Un o gyfrinachau llwyddiant Mudiad Meithrin yw ei allu i adnewyddu ei hunan yn gyson o ddegawd i ddegawd. Yn hynny o beth, nid yw’r Mudiad felly’n ‘hen’ o hanner canrif eleni ond yn hytrach yn ‘newydd’ o hanner canrif.

Gyda 1,500 o wirfoddolwyr, bron i 2,000 o staff yn y Cylchoedd, bron i 300 o staff yn ganolog a 22,000 o blant yn tyrru i elwa o’i ddarpariaeth, mae’r Mudiad wedi tyfu i fod yn bwerdy yng Nghymru. Mae ei stori yn un i godi calon pawb sy’n caru Cymru, caru’r Gymraeg a charu plant.”

Mae nifer o bobl wedi cyfrannu at y gyfrol gan gynnwys rhai o’r sylfaenwyr cynnar, cyn-swyddogion, a rhieni a phlant heddiw. 
Cyhoeddir y gyfrol hon gan Wasg Carreg Gwalch gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru.

Meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch: “Roeddwn i wedi fy ngeni’n rhy gynnar i gael manteision y Mudiad, ond tyfais i fyny yn sŵn y brwdfrydedd cychwynnol gan fod fy mam yn rhan o’r cyngor cenedlaethol oedd yn cyfarfod yn fisol yn Aber. 

“Gwelais fanteision amlwg gwaith y Cylchoedd lleol wrth i bob un o fy mhlant fwynhau’r gorwelion newydd oedd yn agor iddyn nhw. Clamp o gyfraniad; clamp o stori - a gwych gweld cofnod lliwgar o hyn i gyd rhwng cloriau’r gyfrol.”

Wrth edrych yn ôl ar gyflawniad y Mudiad dros yr hanner canrif ddiwethaf ac wrth edrych ymlaen at y dyfodol, gweledigaeth Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr presennol Mudiad Meithrin yw hyn: “Holl genhadaeth a phwrpas ein gwaith yw defnyddio’r blynyddoedd cynnar fel cyfrwng i greu siaradwyr Cymraeg newydd o blith y plant na fyddai’n siarad Cymraeg fel arall ac mae’r profiad o ddysgu trwy chwarae yn holl bwysig yn ei hawl ei hun. 

“Ond credaf mai gwaddol mwyaf y Mudiad fydd gweld nad oes mo’i angen ryw ddiwrnod, pan fydd ein cyfundrefn gofal ac addysg yn darparu’r gefnogaeth orau posib i’r plant lleiaf a hynny’n awtomatig trwy gyfrwng y Gymraeg.”