MAE Eisteddfod yr Urdd newydd gyhoeddi Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Mae’r rhestr yn amrywio o gystadlaethau llwyfan a chyfansoddi i blant a phobl ifanc o dan 25 oed, a ddewiswyd gan banelau lleol a gwirfoddolwyr o Sir Ddinbych, wedi hir ymaros o ganlyniad i’r pandemig.

Gellir lawrlwytho Rhestr Testunau 2022 a rheolau cystadlu yn rhad ac am ddim oddi ar wefan Eisteddfod yr Urdd.

Bydd cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn agor ar 1 Rhagfyr 2021 ac yn cau ar 14 o Chwefror 2022. Bydd cystadlaethau amgen Rhestr T yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn, yn dilyn llwyddiant gŵyl ddigidol Eisteddfod T.

Gobaith y mudiad yw cynnal Eisteddfod yr Urdd 2022 yn Ninbych yn ystod hanner tymor y Sulgwyn.

Gwobrwyo Enillwyr Eisteddfod yr Urdd 2020-21 Yn ystod wythnos y 18fed o Hydref bydd Eisteddfod yr Urdd yn gwobrwyo’r holl waith Cyfansoddi a Chreu buddugol ddaeth i law yn 2020, cyn gorfod gohirio’r Eisteddfod yn Ninbych oherwydd Covid-19.

Fel rhan o wythnos arbennig ar blatfformau digidol yr Urdd, yn ogystal ag ar raglen Heno, S4C ac ar BBC Radio Cymru, cynhelir dathliad o weithiau buddugol a chyhoeddir enillwyr cystadleuaeth y Gadair, y Goron, y Fedal Ddrama a’r Fedal Gyfansoddi.

Bydd y Prif Lenor yn derbyn Coron wedi’i chreu gan y cerflunydd Mared Davies, a’r Prifardd yn ennill Cadair wedi’i cherfio gan y saer Rhodri Owen.

Cwmni gemwaith Rhiannon o Dregaron sydd wedi creu’r medalau ar gyfer y Prif Ddramodydd a’r Prif Gyfansoddwr.

Eleni am y tro cyntaf, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi ‘Deffro’, cyfrol y cyfansoddiadau ar ei newydd wedd wedi ei guradu gan ddau o gyn-enillwyr yr Eisteddfod.

Brennig Davies, Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 yw golygydd creadigol y gyfrol ac Efa Lois, Prif Artist Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 sydd wedi ei dylunio. Gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau, bydd ar gael fel e-lyfr ac o siopau llyfrau Cymraeg o 22 Hydref.

Bydd rhestr o’r holl enillwyr a’r beirniadaethau ar gael ar wefan Eisteddfod yr Urdd o 18 Hydref.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, “Mi ydan ni’n falch iawn o fedru cyhoeddi ein Rhestr Testunau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022. Ac wedi hir ymaros, braf hefyd fydd cael datgelu enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod yr Urdd na gynhaliwyd yn 2020 o ganlyniad i’r pandemig.”

Am fwy o wybodaeth, ewch draw at wefan Eisteddfod yr Urdd.