BYDD cyrsiau rhithiol ‘Defnyddio’ Cymraeg Gwaith, sy’n cael eu darparu gan Nant Gwrtheyrn ac wedi eu cyllido’n llawn, ar gael unwaith eto yn yr Hydref a’r Gaeaf ar gyfer unrhyw berson sydd yn gweithio neu sy’n ddi-waith yng Nghymru.

Mae’r cyrsiau yn cael eu cynnig ar lefelau Canolradd, Uwch a Gloywi dan arweiniad tiwtoriaid profiadol felly’n addas i siaradwyr Cymraeg rhugl neu siaradwyr Cymraeg newydd.

Mae’r cyrsiau rhithiol yn rhan o gynllun ‘Cymraeg Gwaith’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, cynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd ar hyd a lled Cymru.

Meddai Rhodri Evans, Rheolwr Addysg Nant Gwrtheyrn: “Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol unwaith eto drwy ddarparu cyrsiau dwys sy’n canolbwyntio ar godi hyder a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

“Roedd yr ymateb i’r cyrsiau rhithiol yma yn gynharach yn y flwyddyn yn wych, ac mae’n dda gweld y cyrsiau’n dychwelyd o ganlyniad i’r galw amdanynt ac yn cael effaith bositif ar ddefnydd y Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt.”

Ychwanegodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Rydym yn falch o allu gweithio gyda Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn unwaith eto er mwyn cynnig y cyrsiau rhithiol ‘Defnyddio’ dros gyfnod yr hydref a’r gaeaf ac yn edrych ymlaen at gynnig rhagor o gyfleoedd dysgu dwys yn y flwyddyn newydd.”

Os oes gennych chi ddiddordeb gwybod mwy am y cyrsiau, cysylltwch gydag adran Addysg Nant Gwrtheyrn: cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org