OES talent greadigol yn ty chi?

A beth am gyfrinachau cudd a dirgel?

Wel, mae Aled Hughes, o BBC Radio Cymru yn chwilio am blant talentog sy’n hoff o drin geiriau a defnyddio eu dychymyg i greu straeon.

Os oes plant rhwng 5 ac 11 oed yn rhan o’ch bywyd chi, yna rhowch hwb iddynt roi pensel i bapur a sgwennu stori fer.

Y dasg yw: ysgrifennu stori dim mwy na 500 gair ar thema ‘Y Gyfrinach.’

Mae tri chategori oedran:

• Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed.

• Cyfnod allweddol 2a, 7-9 oed.

• Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed.

Bydd Aled yn cyhoeddi’r enillwyr ar ei raglen, a bydd yr enillwyr yn derbyn rhodd gan y Cyngor Llyfrau.

Yr hyfryd dalentog, Mari Lovgreen fydd â’r dasg o feirniadu a dyma mae hi wedi eu gosod fel y prif bwyntiau i’w cadw yn y cof: gwreiddioldeb y stori, y plot, y cymeriadu, yr iaith a’r peth pwysicaf un y mwynhad o sgwennu a’r darllen.

I gystadlu, rhaid danfon y straeon drwy’r ysgol yn unig (ynghyd a ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru) i Radio Cymru erbyn Mawrth 3 ar Ddiwrnod y Llyfr.

Am yr holl wybodaeth, ewch i: www.bbc.co.uk/programmes/b075t5tc