AR Ddiwrnod Cariad @ Urdd ar Ionawr 25, dechreuodd dathliadau canmlwyddiant mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru yn swyddogol gyda Pharti Pen-blwydd rhithiol mwyaf yn hanes yr Urdd ac ymgais i dorri record byd.

Bu parti rhithiol dros Zoom yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, Mistar Urdd a Mei Gwynedd wedi ei ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Cymru a Radio Wales.

Yna bu’r Urdd a’r genedl gyfan yn ymgeisio i dorri record byd Guinness drwy uwchlwytho cymaint â phosib o recordiadau fideo o unigolion, grwpiau a theuluoedd yn canu fersiwn fer o’r gân eiconig, Hei Mistar Urdd, i Twitter a Facebook.

Roedd dros 80,000 wedi cofrestru i gymryd rhan yn y dathliadau ar y diwrnod, o ysgolion i elusennau a grwpiau cymunedol.

Ym mis Ionawr 1922, mewn erthygl yng nghylchgrawn Cymru’r Plant, gofynnodd Syr Ifan ab Owen Edwards (sylfaenydd yr Urdd) i blant Cymru i ymuno â mudiad newydd o’r enw ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’, gan nad oedd yn teimlo fod digon o gyfleoedd i blant Cymru ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Meddai Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd: “Mae ein dyled ni fel cenedl yn enfawr i weledigaeth Syr Ifan.

"Mae’r Urdd wedi bod yn fudiad hollol unigryw ac arloesol ers y cychwyn, ac mor berthnasol heddiw i fywydau pobl ifanc ag yr oedd ganrif yn ôl. Mae cyrraedd y garreg filltir arbennig hon yn gyfle inni ddathlu stori’r Urdd ac edrych tua’r dyfodol.

“Mae'r Urdd wedi darparu cyfleoedd unigryw i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc Cymru fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, o chwaraeon i'r celfyddydau, profiadau preswyl, dyngarol, awyr agored, gwirfoddol, hyfforddiant a rhyngwladol.

"Dyma’r unig fudiad sy’n cynnig amrywiaeth mor eang i’n pobl ifanc ac felly haedda ei le fel prif fudiad ieuenctid Cymru.

"Galwaf ar bawb yng Nghymru (a thu hwnt!) i ddangos eich cariad at yr Urdd drwy ymuno yn nathliadau’r canmlwyddiant.”

Yn ôl Rhuanedd Richards, o BBC Cymru: “Mae BBC Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau 100 mlwyddiant Urdd Gobaith Cymru gan bod y mudiad wedi chwarae rhan mor bwysig yn darparu cyfleoedd i blant Cymru, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru hefyd wedi agor arddangosfa newydd i nodi’r canmlwyddiant ac mae adeiladau eiconig megis Senedd Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol wedi ymrwymo i chwifio baner yr Urdd neu oleuo’n goch, gwyn a gwyrdd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.