CYMRODD 100 o fyfyrwyr rhan mewn heriau gaeafol yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn yn ddiweddar.

Bu dysgwyr Lefel 2 a 3 Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai o safleoedd Coleg Cambria, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy ar ddau ymweliad preswyl pum niwrnod i Wersyll yr Urdd.

Wedi’u harwain gan y darlithwyr Alan Iowry a Gary Abnett, fe wnaethant fwynhau a phrofi cyfres o heriau mewn tywydd garw.

“Aeth y dysgwyr i’r afael ag amrywiaeth o weithgareddau awyr agored gan gynnwys dringo creigiau, caiacio, canŵio, cerdded bryniau, cyfeiriannu, datrys problemau, saethyddiaeth, cerdded ceunentydd, ogofa a rhaffau uchel - fe gawson nhw lwyddiant mawr,” meddai Alan.

“Hefyd bu her grwpiau canŵio i elusen sef ras 3.6 milltir ar hyd Llyn Tegid, ac fe gafodd grŵp Lefel 2 hyfforddiant ychwanegol mewn sgiliau alldeithiau i baratoi ar gyfer eu Gwobr Efydd Dug Caeredin.

“Er y tywydd stormus fe gawson ni amser anhygoel ac fe wnaethon nhw ddangos gwaith tîm gwych trwy gydol yr amser.”

Y llynedd, cyflawnodd 203 o bobl ifanc Wobrau Dug Caeredin yng Ngholeg Cambria - 199 Efydd, dwy wobr Arian a dwy wobr Aur.

“Rydyn ni mor falch ohonynt am ddatblygu sgiliau fel datrys problemau, darllen map, cymorth cyntaf a chynllunio llwybrau a phrydau,” meddai Rona Griffiths, un o reolwyr y Coleg.

Mae’r holl ddysgwyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael sesiynau iaith Gymraeg wythnosol yn y coleg i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer cyflogaeth. Cawsant amrywiaeth o gyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau yng Nglan Llyn.

Am fwy o wybodaeth am y coleg ewch i www.cambria.ac.uk