SACH gysgu? Tic. Fflachlamp? Tic. Danteithion? Tic!

Mae popeth yn barod ar gyfer ‘Amgueddfa dros Nos’ newydd Amgueddfa Cymru.

Caiff ‘Amgueddfa Dros Nos: Deffro gyda’r Deinos!’ a gefnogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, ei gynnal ar y pumed a’r chweched o Chwefror o 1pm tan 10 y bore canlynol.

Aiff y digwyddiad â theuluoedd ar daith drwy amser i oes y deinosoriaid, drwy gymysgedd o ddeunydd byw a deunydd wedi eu recordio o flaen llaw yn cynnwys eitemau o gasgliadau Amgueddfa Cymru.

Enillodd digwyddiad tebyg yn 2021 wobr Amgueddfa i’r Teulu am y Digwyddiad Digidol Gorau.

Yn addas ar gyfer plant rhwng chwech a 12 oed, bydd tocyn Iaith Arwyddo Prydain ar gael a chyfle i gymryd rhan yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Bu Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru, yn helpu i greu’r digwyddiad.

Meddai: "Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi amser i nifer ohonom ystyried yr hyn sy’n bwysig, megis treulio amser gyda’n teuluoedd.

"Gobeithio y bydd y digwyddiad yn dod â theuluoedd ynghyd mewn ffordd ddiogel, gan ysbrydoli pawb gyda rhyfeddodau gwyddoniaeth y cynfyd."

Mae tocynnau yn £5 (+ ffi archebu drwy Eventbrite) ar gyfer y teulu cyfan a byddant ar gael i’w prynu o wefan yr Amgueddfa: www.amgueddfa.cymru